Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Mai 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13910
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.18
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y materion sydd wedi dod i'r amlwg yng Ngharchar Parc EF?
Dechreuodd yr eitem am 15.26
Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (13-19 Mai).
Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am - Lauren Price yn ennill teitlau paffio y byd pwysau welter yr WBA, yr IBO a’r cylchgrawn “The Ring” (11 Mai).
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - 150 mlynedd o Ysgol Pentrecelyn, ger Rhuthun (11 Mai).
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Derbyniwyd y cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i grwpio’r cynigion a ganlyn ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio.
NNDM8583 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhianon Passmore (Llafur Cymru) yn lle John Griffiths (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
NNDM8584 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
NNDM8585 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol John Griffiths (Llafur Cymru) yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8571 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn;
b) mai ysmygu yw prif achos afiechydon y gellir eu hatal a marw cyn pryd yng Nghymru, gan achosi 3,100 o achosion o ganser bob blwyddyn;
c) bod cynnydd amlwg i'w weld yng Nghymru yn nifer y bobl ifanc sy’n fepio, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer y manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion nicotin;
d) y bydd mwy o ddibyniaeth ar nicotin ymhlith pobl iau yn cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth i roi'r gorau i nicotin yng Nghymru; ac
e) bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i weithredu penodau 2, 3 a 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn llawn a fyddai'n ei gwneud yn bosibl:
i) sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
ii) ychwanegu troseddau a fyddai’n cyfrannu at orchymyn mangre o dan gyfyngiad yng Nghymru, gan alluogi swyddogion gorfodi i wahardd manwerthwr rhag gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin am hyd at flwyddyn; a
iii) gwahardd rhoi tybaco a chynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed;
b) sicrhau bod y Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco yn blaenoriaethu gweithredu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a nicotin fel rhan o ail gam y cynllun gweithredu ar reoli tybaco ar gyfer Cymru 2024-2026;
c) ymrwymo i ymgyrch gyfathrebu wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r broses weithredu a newidiadau dilynol i reoliadau a deddfwriaeth; a
d) sefydlu gweithgor i:
i) goruchwylio'r broses o weithredu'r gofrestr o fanwerthwyr yn brydlon;
ii) archwilio sut y gallai'r gofrestr o fanwerthwyr arwain y ffordd at gynllun trwyddedu a/neu adnoddau ar gyfer mesurau gorfodi ychwanegol; a
iii) cyflwyno'r data a gasglwyd o'r gofrestr i helpu i dargedu ymdrechion i roi'r gorau i ysmygu a diogelu'r cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
20 |
4 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.13
NDM8581 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol’, a osodwyd ar 6 Rhagfyr 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8582 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd practisau meddygon teulu o ran lliniaru'r pwysau ar ysbytai a chefnogi cleifion ledled Cymru.
2. Yn gresynu bod gan Gymru 473 o bractisau meddygon teulu yn 2012, ond bod hyn wedi gostwng i 374 ym mis Rhagfyr 2023.
3. Yn gresynu ymhellach mai dim ond 6.1 y cant o gyllid GIG Cymru aeth tuag at ymarfer cyffredinol yn y flwyddyn 2020-21 a bod llai nag 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd tuag at ymarfer cyffredinol ar hyn o bryd, sy'n is nag yn 2005-6.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i sicrhau nad yw'r 100fed practis meddygon teulu yn cau yng Nghymru mewn ychydig dros ddegawd;
b) mabwysiadu galwadau allweddol ymgyrch Achubwch Ein Meddygfeydd BMA Cymru Wales i 11 y cant o gyllid GIG Cymru gael ei wario ar ymarfer cyffredinol ac i lunio strategaeth gweithlu i sicrhau bod Cymru'n hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o ran meddygon teulu fesul 1000 o bobl; ac
c) sicrhau bod y swm canlyniadol Barnett llawn, sy'n deillio o wariant ar y GIG gan Lywodraeth y DU ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Adroddiad Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.
2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.
3. Yn nodi:
a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;
b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;
c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a
d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.
4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8582 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd practisau meddygon teulu.
2. Yn croesawu’r cynnydd o ran y Model Gofal Sylfaenol i Gymru sy'n cefnogi gofal mewn cymunedau lleol, yn nes at gartrefi pobl.
3. Yn nodi:
a) bod nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi aros yn sefydlog;
b) bod y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn adlewyrchu tuedd tuag at feddygfeydd mwy o faint wrth i feddygon teulu geisio lleihau costau a gwneud y mwyaf o adnoddau ar gyfer gweithgarwch sy'n wynebu cleifion;
c) bod y targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson; a
d) bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r proffesiwn meddygon teulu ar raglen o ddiwygio contractau i leihau biwrocratiaeth i feddygon teulu a gwella profiadau i gleifion.
4. Yn cydnabod bod Cyllideb Cymru ar gyfer 2024-25 wedi cynyddu’r cyllid i’r GIG yng Nghymru dros 4 y cant, o'i gymharu â llai nag 1 y cant yn Lloegr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.30
Dechreuodd yr eitem am 18.34
NDM8577 Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Strategaeth tlodi gwledig i Gymru
Daeth y cyfarfod i ben am 19.02
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mai 2024